WALES

REPs Cymru...
E-gylchgrawn Gwanwyn 2010
click here for the English version

Croeso i e-gylchgrawn Cymraeg CSYP ar gyfer Gwanwyn 2010.

Mae rhai datblygiadau cyffrous wedi digwydd yng Nghymru yn ystod y misoedd diwethaf ac rwy’n teimlo ei bod yn briodol bod ein holl aelodau yng Nghymru’n ymwybodol o’r cynnydd sy’n cael ei wneud ...


4edd Cynhadledd Cymru
4 cynhadledd
Cyfarwyddwr Newydd i Ffitrwydd Cymru
Deunydd Ymwybyddiaeth y Cyhoedd
Enw yn yr Uwch-Gyfeirlyfr


REPs
 

4edd Cynhadledd Cymru

Profodd Cynhadledd CSYP Cymru yn 2010 yn llwyddiant ysgubol gyda mwy na 120 yn bresennol ac yn mwynhau cyflwyniadau gan y siaradwyr, sef Yr Athro David McArthy (Prifysgol Fetropolitan Llundain) a Dr Jeremy Moody (APCC). Darparwyd diweddariadau gan CSYP a chan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac roedd dewis o 8 gweithdy ar gael, yn cael eu cyflwyno gan: Ffitrwydd Cymru, Prifysgol Morgannwg, Hyfforddiant Hwyrach Mewn Oes, Fit Pro, Hyfforddiant Rhyngwladol Premier a Hyfforddiant ac Adnoddau Exact.

Fe hoffai CSYP ddiolch i bob un o’r cynadleddwyr a’r cefnogwyr ac mae’n edrych ymlaen at eich gweld i gyd y flwyddyn nesaf. Mae cyflwyniadau’r diwrnod ar gael yn awr yn ein gwefan:

http://www.exerciseregister.org/REPsWales2010.html

4 cynhadledd
Mae CSYP wedi trefnu 4 cynhadledd bellach ar gyfer 2010. Cofiwch fynd i’n gwefan er mwyn cael gwybodaeth bellach.

Cynhadled y De Ddwyrain
Dydd Iau 20fed Mai, Dartford David Lloyd

Cynhadledd yr Alban
Dydd Mawrth 29ain Mehefin, Harbwr Newhaven Caeredin David Lloyd

Cynhadledd Genedlaethol
Dydd Iau 23ain Medi, LIW, NEC Birmingham

Cynhadledd Genedlaethol
Dydd Mercher 10fed Tachwedd, y lleoliad i’w gadarnhau

CPD4

GWYL Ffitrwydd
SADWRN 24ain EBRILL

Yn ATHROFA CHWARAEON CYMRU,
GERDDI SOPHIA,
CAERDYDD CF11 9SW
Fitness Wales  

Cyflwynwyr Allweddol

- 27 o Sesiynau Ffantastig i ddewis o’u plith -
- Syniadau Ymarferol Dirifedi -
- Darlithoedd a llwybrau newydd -
- Rhwydweithio -
- Stondinau Masnach -

Peidiwch â cholli achlysur ffitrwydd y flwyddyn. Ymhlith y cyflwynwyr rhagorol mae Troy Dureh (Sweden), Darin Dieterich (Yr Almaen) a Denise Page (Llundain). Yn cael ei hystyried fel y gynhadledd fwyaf cyfeillgar yn bod, bydd yr achlysur yn cynnig rhywbeth i bob hyfforddwr. Prisiau o £45.

www.fitnesswales.co.uk/workshops.htm

Cyfarwyddwr Newydd i Ffitrwydd Cymru

Dymuniau gorau i Mary Sheppard sy’n ymddeol o’i swydd fel Cyfarwyddwr Ffitrwydd Cymru a llongyfarchiadau mawr i Debbie Lawrence, a fydd yn olynu Mary. Mae Debbie’n dod ag amrywiaeth eang o sgiliau i’r swydd ac mae ganddi bron i 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ffitrwydd fel: awdur 7 o lyfrau; ymgynghorydd ar gyfer datblygu Cymwysterau ar gyfer cyrff dyfarnu cenedlaethol; hyfforddwr athrawon a hyfforddwr ymarfer arbenigol.

Cafodd Debbie ei hysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn ffitrwydd wedi mynychu ei hymarfer cyntaf yn arddull Jane Fonda yn 1980. Bu i’w hangerdd dros arferion ac addysg broffesiynol ei harwain i hyfforddi gyda’r KFA (1984) a’r YMCA ar un o’r rhaglenni RSA cyntaf erioed (dan arweiniad y diweddar Lesley Mowbray) yn 1987. Aeth yn ei blaen wedyn i weithio i’r YMCA fel eu Prif Ddilyswr Mewnol a chynorthwyodd gyda datblygu CYQ fel corff dyfarnu yn 1996/7. Mae’n parhau i weithio gyda CYQ fel Dilyswr Allanol ac fel ymgynghorydd.

Mae’n ymroddedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus, o’i rhan hi ei hun yn bersonol ac eraill. Mae ganddi radd Meistr mewn addysg ac mae’n gynghorydd cymwys, gyda diddordeb mewn iechyd y meddwl. Ei ffocws fydd cynnal y dull o weithredu yn rhoi ffocws cryf ar y person a’r gymuned a ddatblygwyd gan Mary a darparu mwy o gyfleoedd DPP ar gyfer aelodau Ffitrwydd Cymru. Un o’i thargedau cyntaf yw datblygu a lansio rhaglen Iechyd y Meddwl Lefel 4 erbyn mis Awst 2010.

Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda Debbie a gyda thîm Ffitrwydd Cymru.

Deunydd Ymwybyddiaeth y Cyhoedd

Mae deunydd ymwybyddiaeth y cyhoedd newydd CSYP ar gael i’n haelodau ac i’r clybiau a’r canolfannau sy’n cyflogi hyfforddwyr CSYP. Mae nifer o glybiau a chanolfannau ar hyd a lled Cymru wedi prynu’r placiau acrylig sydd, ynghyd â’r placiau cardfwrdd am ddim, yn hysbysebu bod hyfforddwyr sydd wedi cofrestru gyda CSYP yn gweithio ar y safle. Mae taflenni brand CSYP ar gael hefyd ar gyfer ein haelodau ac ar gyfer y cyflogwyr sy’n defnyddio aelodau CSYP. Ceir taflenni ynghylch sut all aelodau CSYP helpu’r sector iechyd, y manteision o fod yn aelod o CSYP a’r manteision o gyflogi hyfforddwyr CSYP. Bydd deunyddiau pellach ar gael yn fuan drwy gyfrwng ein gwefan, fel cardiau busnes a Llyfrau Cofnodi PT.

Mae’r cyhoedd angen gwybod bod mecanwaith yn bodoli er mwyn cynnig sicrwydd yn ein diwydiant a CHI fel y gweithiwr ymarfer proffesiynol sydd yn y sefyllfa orau i greu mwy o ymwybyddiaeth o hyn.

plaque
Enw yn yr Uwch-Gyfeirlyfr

The uptake of our Advanced Directory Listing has been great so far. You can now find hundreds of exercise professionals in Wales who have added their contact details through our website. The Advanced Directory Listing gives you the ability to leave your contact details, a website link, and a personal profile and these are then available for any visitor to our website – this may be an employer looking for an ETM Instructor, a member of the public looking for a Personal Trainer, or a project manager from the Sports Council for Wales (SCW) looking for an Advanced Instructor to deliver an exercise initiative. Due to our agreement with the SCW this is free to all of our Welsh members so please use the following internet address to add your contact details to the Advanced Directory:

http://www.exerciseregister.org/custom/REPsWalesADL.htm

 
www.exerciseregister.org
more people | more active | more often | more professional