Sut Mae’n Gweithredu...?



Gall pob swyddog ffitrwydd proffesiynol gofrestru os yw’n gweithio neu’n ymwneud â rhoi cyfarwyddyd mewn gym, dosbarthiadau ymarfer i grwpiau, cylchedau, cadw’n heini, hyfforddiant personol, ioga, pilates, tanddwr, technegau cyfarwyddyd uwch neu’n gweithio â phoblogaethau arbennig a rhaglenni cyfeirio at ymarfer a gweithgarwch corfforol.

Mae meini prawf a strwythur y Gofrestr wedi’u llunio yng nghyd-destun y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol a Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol y DG. Mae modd trosglwyddo’r cofrestriad ledled y DG, yn Ewrop ac ym mhob cwr o’r byd.

Fel aelodau o’r GSYP, mae unigolion yn derbyn cerdyn aelodaeth, tystysgrif gofrestru sy’n dangos eu lefel a’r dyddiad dod i ben. Hefyd, mae’r aelodau’n derbyn copi o’r Cod Ymarfer Moesegol a chylchlythyrau rheolaidd sy’n cynnwys manylion am ddatblygiad proffesiynol a materion gwaith yn y diwydiant ffitrwydd ac ymarfer.

Mae’r Gofrestr o Swyddogion Ymarfer Proffesiynol yn eiddo i SkillsActive, Cyngor y Sector Sgiliau ar gyfer hamdden a dysgu egnïol. Elusen ydyw a’i rhif cofrestru yw 1098336. Gweinyddir gwaith o ddydd i ddydd y GSYP drwy gyfrwng cwmni cyfyngedig gan gyfranddaliadau nad yw’n gwneud elw. Rhif cofrestru’r cwmni yw 5074594.

Mae’r diwydiant ymarfer a ffitrwydd yn cydnabod bod ei dwf a’i ddatblygiad yn y dyfodol yn gysylltiedig ag ehangu’r agenda iechyd ac mae’r GSYP yn gweithio’n agos gyda nifer o Adrannau’r Llywodraeth ac asiantaethau er mwyn cefnogi’r gwaith o godi safonau a gwella cymwysterau a sgiliau’r swyddogion ffitrwydd proffesiynol. Mae hyn yn allweddol er mwyn cyflawni nodau busnes a chymdeithasol, ac i wynebu’r her a osodir yn nifer o dargedau a mentrau’r Llywodraeth. Mae’r GSYP yn cyflawni’r un swyddogaeth ar gyfer hyfforddwyr ymarfer ag y mae cofrestri proffesiynol ar gyfer grwpiau iechyd proffesiynol eraill. Mae’r fframwaith sicrhau ansawdd hwn a gyhoeddwyd gan yr Adran Iechyd (NQAF) yn argymell bod cofrestru’n hanfodol i swyddogion ymarfer proffesiynol sy’n gweithio gyda rhaglenni cyfeirio.

Mae cofrestru’n arwydd bod y swyddogion ymarfer proffesiynol yn bodloni’r safonau ar gyfer ymarfer eu gwaith, yn cynnwys addysg barhaus ac yswiriant.

Sicrheir Datganiad o Fwriad y GSYP drwy:

  • Codi safonau a gwella cymwysterau a sgiliau’r swyddogion ymarfer proffesiynol ledled y DG

  • Croesawu pob disgyblaeth, yn cynnwys cyfarwyddyd mewn gym, dosbarthiadau ymarfer i grwpiau, cylchedau, cadw’n heini, hyfforddiant personol, ioga, pilates, tanddwr, technegau cyfarwyddyd uwch, gweithio gyda phoblogaethau arbennig, cleifion a gyfeirir at ymarfer a phobl sy’n ymwneud â rhaglenni gweithgarwch corfforol

  • Sefydlu bod cofrestru’n hanfodol er mwyn gweithio yn y meysydd hyn

  • Monitro perfformiad y swyddogion ymarfer proffesiynol i gyd er mwyn sicrhau bod holl aelodau’r Gofrestr ar gyfer Swyddogion Ymarfer Proffesiynol yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth, y profiad a’r hyfedredd i gyflawni eu rôl, yn cynnwys ymrwymiad i gyflawniad personol drwy gyfrwng datblygiad proffesiynol parhaus

  • Sicrhau bod aelodau’r Gofrestr ar gyfer Swyddogion Ymarfer Proffesiynol yn gweithio gan gadw at God Ymarfer Moesegol caeth

  • Sicrhau bod gan holl aelodau’r Gofrestr yswiriant digonol

  • Sicrhau bod y Gofrestr yn gweithio i gynrychioli a gwasanaethu buddiannau proffesiynol a statws ei aelodau

  •