Cofrestr Ymarferwyr Corff Proffesiynol



Sefydlwyd y Gofrestr o Swyddogion Ymarfer Proffesiynol (y GSYP) er mwyn helpu i ddiogelu a hybu iechyd a buddiannau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau hyfforddwyr ac athrawon ymarfer a ffitrwydd. Mae’r Gofrestr yn defnyddio proses o hunanreolaeth sy’n cydnabod cymwysterau’r diwydiant a hyfedredd ymarferol ac sy’n galw ar i swyddogion ffitrwydd proffesiynol weithio oddi mewn i God Ymarfer Moesegol. Mae aelodau’r Gofrestr yn derbyn cerdyn a thystysgrif gofrestru er mwyn profi bod ganddynt gymwysterau a’u bod yn aelodau.

Yn cael ei galw hefyd yn Gofrestr Ymarfer, mae’n weithredol yn y DG ac ym mhob cwr o’r byd, i gydnabod cyflawniadau a hyfedredd personol y swyddogion ffitrwydd proffesiynol.

  • Beth yw’r Gofrestr...?

  • Sut Mae’n Gweithredu...?



  • Enw yn yr Uwch-Gyfeirlyfr
    Fel rhan o’n cytundeb gyda Chyngor Chwaraeon Cymru, byddwn yn cynnig cyfle i holl aelodau Cymru roi eu henw am ddim yn ein Huwch-Gyfeirlyfr Newydd. Mae’r Uwch-Gyfeirlyfr yn fas data y gall cyflogwyr, rheolwyr prosiectau ac aelodau’r cyhoedd ei ddefnyddio i gael hyd i hyfforddwyr gyda chymwysterau addas yn eu hardal leol. Bydd y datblygiad hwn yn profi’n fanteisiol iawn wrth fod yn aelod o CSYP. Oherwydd ein partneriaeth gyda Chyngor Chwaraeon Cymru a nifer y mentrau a fydd angen bas data rhanbarthol o swyddogion ymarfer proffesiynol cymwys, rydym yn anelu at gynnwys manylion cyswllt ein holl aelodau yng Nghymru yn ein gwefan.

    At arwydda i fyny at 'r Enw yn yr Uwch-Gyfeirlyfr cliciwch yma

    Newsletters

    Rhifyn 1 - Chwefror 2006
    Rhifyn 1 - Chwefror 2007
    Rhifyn 2 - Chwefror 2007


    Chyffyrddiad Swyddog y Gofrestr yng Nghymru

    John Byers
    Cofrestr Ymarferwyr Corff Proffesiynol
    Swyddog y Gofrestr yng Nghymru
    Athrofa Chwaraeon Cymru
    Gerddi Sophia
    Caerdydd
    CF11 9SW

    Ffon: 02920 224369
    e-bost: Wales@exerciseregister.org