Quick Links
Home
About REPs
Qualifications & Training
The International Picture
FAQs & Information
REPs Wales
Chofnoda Cymru
Join REPs
Contact Us
Beth yw’r Gofrestr...?
Mae’r Gofrestr o Swyddogion Ymarfer Proffesiynol (y GSYP) yn system o hunanreolaeth ar gyfer pob hyfforddwr, arweinydd
ac athro sy’n ymwneud â’r diwydiant ymarfer a ffitrwydd. Mae’r GSYP yn creu fframwaith i’r hyfforddwyr unigol weithio
oddi mewn iddo a chyrraedd y safonau uchaf mewn proffesiynoldeb, yn gysylltiedig ag arfer orau a’r diwydiant ffitrwydd.
Gellir cofrestru ac aros ar y gofrestr drwy ennill cymwysterau a derbyn hyfforddiant a gydnabyddir yn genedlaethol ac sy’n
gysylltiedig â Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer ymarfer a ffitrwydd.
wedi ennill cymwysterau cydnabyddedig a chymeradwy;
yn gallu dangos hyfedredd yn eu hamgylchedd gwaith;
yn ymroddedig i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP);
yn meddu ar yswiriant atebolrwydd y cyhoedd priodol i’r lefel maent yn gweithio arni;
yn dangos ymroddiad i God Ymarfer Moesegol y diwydiant. Datganiad o Fwriad y GSYP yw:
Mae’r GSYP yn bodoli gan mai dyma’r unig ffordd i ddangos yn annibynnol bod swyddogion ffitrwydd proffesiynol yn gymwys
a hyfedrus i wneud eu gwaith. Mae’r Gofrestr yn nodwedd ganolog o broffesiynoldeb y diwydiant, sy’n allweddol i roi i
gwsmeriaid, defnyddwyr, y cyhoedd a phartneriaid yn y proffesiwn meddygol y lefel angenrheidiol o hyder yn ansawdd y
gwasanaethau a ddarperir gan swyddogion ffitrwydd proffesiynol.
Mae cofrestru’n arwydd bod swyddog ymarfer a ffitrwydd proffesiynol wedi cyrraedd safonau arfer dda penodol. Mae’r GSYP
yn annog sylfaen o swyddogion ymarfer proffesiynol gyda chymwysterau priodol ac sydd:
"Sicrhau bod pob swyddog ymarfer proffesiynol yn meddu ar yr wybodaeth a’r cymwysterau addas i helpu i ddiogelu a hybu
iechyd a buddiannau’r bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau."